Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Clydebank yn yr Alban heddiw i nodi 75 mlynedd ers y trychineb morol gwaethaf yn hanes Prydain.

Cafodd dros 4,000 o bobl eu lladd pan gafodd y Lancastria ei bomio a’i suddo ger arfordir Llydaw gan yr Almaenwyr yn 1940.

Mae cofeb barhaol i’r rhai a fu farw ar hen safle’r iard longau lle cafodd y Lancastria ei hadeiladu yn 1920.

Cafodd y llong ei meddiannu gan y llywodraeth ar gyfer yr Ail Ryfel Byd yn 1939, ac fe fu’n cludo milwyr o Norwy, ac yn chwarae rhan yng nghyrch achub Dunkirk cyn cael ei suddo bythefnos yn ddiweddarach.