Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea
Mae Gogledd Corea yn cyhuddo’r Unol Daleithiau o’i dargedu â haint anthrax ac yn apelio ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i ymchwilio i “gynlluniau rhyfel biolegol” America.

Yn ôl llythyr gan lysgennad Pyongyang i’r Cenhedloedd Unedig, mae gan yr Unol Daleithiau arfau distryw mawr marwol ac mae’n ceisio eu defnyddio yn erbyn Gogledd Corea.

Daw’r honiad wythnosau ar ôl i swyddogion adran amddiffyn America gydnabod bod samplau o anthrax wedi cael eu hanfon i labordai mewn pedair gwlad, gan gynnwys safle milwrol Americanaidd yn Ne Corea.

Roedd yr anthrax i fod wedi cael ei ladd gan belydrau gamma cyn i’r samplau gael eu hanfon.

Mae Gogledd Corea yn gwrthwynebu unrhyw bresenoldeb milwrol gan America yn Ne Corea, a dywed y llysgennad Ja Song Nam fod yr anthrax yn golygu bod yr Unol Daleithiau’n ceisio ei ddefnyddio mewn rhyfel yn erbyn ei wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Wladol America fod yr honiadau yn “chwerthinllyd” ac nad oedden nhw’n “haeddu ymateb”.