Nitrogen
Mae dynes 20 oed dal yn dioddef “poenau arteithiol” dros ddwy flynedd a hanner ers iddi yfed coctel oedd yn cynnwys hylif nitrogen, yn ôl ei chyfreithiwr.

Roedd Gaby Scanlon yn dathlu pen-blwydd un o’i ffrindiau yn Oscar’s Wine Bar and Bistro yng Nghaerhirfryn pan yfodd hi’r ddiod Nitro-Jagermeister.

Ar ôl yfed y ddiod fe ddechreuodd ei stumog chwyddo ac roedd rhaid iddi fynd i’r ysbyty, ble gafodd twll ei ddarganfod.

Bu rhaid i’w stumog gael ei dynnu allan, a bellach mae ei oesoffagws wedi cael ei chysylltu’n uniongyrchol i’w choluddyn.

Y bar yn y llys

Heddiw fe blediodd Oscar’s Wine Bar Limited yn euog yn Llys y Goron Preston o fethu â sicrhau diogelwch y ferch, gan gyfaddef nad oedden nhw wedi gwneud yn siŵr fod y coctel yn saff i bobl yfed.

Wrth groesawu’r ple, dywedodd cyfreithwyr Gaby Scanlon fod bywyd y ferch wedi “newid yn llwyr” yn dilyn y digwyddiad.

“Mae hi nawr yn dioddef poenau arteithiol ac wedi gorfod mynd i’r ysbyty sawl gwaith,” meddai Patrick Noone o Slater & Gordon.

“Mae’n rhaid iddi osgoi bwyta rhai bwydydd a dyw hi methu mwynhau bwyta bellach, gan ei chael hi’n anodd dweud pryd mae hi’n llawn.”

Ychwanegodd fod yr effeithiau ar ei bywyd wedi bod yn “ddifrifol”, a’i bod wedi gorfod ceisio ailadeiladu ei bywyd tra bod ei ffrindiau i gyd yn mynd i’r brifysgol.

“Ei gobaith hi a ni yw bod hyn yn rhybudd i fariau a bwytai sydd yn gorfod cymryd cyfrifoldeb dros beth maen nhw’n ei weini i aelodau o’r cyhoedd,” ychwanegodd y cyfreithiwr.

Gweithiwr yn ddieuog

Cafodd ple dieuog gweithiwr o’r bar, Matthew Harding, ei dderbyn gan y Goron.

Mae’r erlynyddion hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n cyflwyno tystiolaeth yn erbyn cyfarwyddwr Oscar’s Wine Bar, Andrew Dunn, cyn belled a bo tâl o £20,000 yn cael ei wneud ar gyfer costau llys.

Fe fydd perchnogion Oscar’s Wine Bar Limited yn cael eu dedfrydu ar 17 Medi.