Carwyn Jones
Mae Cymdeithas ar yr Iaith wedi galw ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i gamu mewn er mwyn sicrhau nad yw neuadd breswyl Pantycelyn yn cael ei chau.

Yn ddiweddar fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth gylchgrawn Golwg y byddai’n “siomedig” petai’r llety i fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ddim ar agor y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol iddi, ac fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Cyngor y brifysgol mewn deg diwrnod.

Mynnodd y brifysgol y byddai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hadleoli i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyhuddo o dorri addewid a wnaethon nhw llynedd i gadw’r neuadd breswyl ar agor, yn ôl yr ymgyrchwyr iaith.

‘Tanseilio cymuned Gymraeg’

Yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae’r brifysgol yn “tanseilio” cymuned Gymraeg prin, ac mae wedi galw ar Carwyn Jones i ymyrryd yn y mater.

‘Rwy’n ysgrifennu atoch er mwyn gofyn i chi ymyrryd er mwyn atal awdurdodau Prifysgol Aberystwyth rhag cau Neuadd Pantycelyn ym mis Medi eleni,’ meddai Jamie Bevan mewn llythyr i’r Prif Weinidog.

‘Rydym yn croesawu eich sylwadau diweddar ynghylch pwysigrwydd y neuadd i’r Gymraeg a’ch cefnogaeth bersonol i’r ymgyrch fel un o gyn-breswylwyr y Neuadd.

‘Rydych wedi cyhoeddi arian i agor canolfannau Cymraeg ar draws Cymru … Nid oes enghraifft well na Neuadd Pantycelyn, sy’n gymuned Gymraeg sydd wedi golygu bod llawer iawn o bobl nid yn unig yn magu hyder yn eu Cymraeg ond yn dysgu’r Gymraeg o’r newydd hefyd. Yn wir, byddai’n gwbl groes i bolisi eich Llywodraeth pe bai’r neuadd yn cau.

‘Ni ddylai arian cyhoeddus fynd at sefydliad os ydyn nhw’n tanseilio un o’r ychydig gymunedau Cymraeg sy’n bodoli yng Nghymru fel hyn. Erfyniwn arnoch i ymyrryd i atal penderfyniad fyddai mor niweidiol i’r Gymraeg fel iaith hyfyw.”

Pwysigrwydd y neuadd breswyl

Yn ddiweddar fe ddywedodd Carwyn Jones, sydd yn gyn-fyfyriwr yn Neuadd Pantycelyn, fod angen llety penodedig ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn i’r Gymraeg allu ffynnu yno.

“Bydden i’n siomedig i weld Pantycelyn yn cau,” meddai Carwyn Jones, sy’n gyfrifol am y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n credu bod y nod o gael neuadd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, a’r unig iaith, yn bwysig dros ben.

“Dw i ddim yn dweud bod rhaid iddi fod yn yr adeilad yna [Pantycelyn]. Ond mae’n bwysig bod neuadd breswyl lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol.

“Doedd yr adeilad ddim mewn cyflwr ffantastig pan oeddwn i yna. Yr unig wahaniaeth rwy’n gweld yw bod y lifft wedi newid, mae lifft awtomatig yna nawr.”

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n dymuno gweld y brifysgol yn addo agor neuadd Gymraeg arall petai Pantycelyn yn cau ei drysau i fyfyrwyr.

“Mae’n bwysig dros ben i gael awyrgylch Gymraeg,” meddai. “Fe fydd hi’n anodd os na fydd neuadd lle mae hynny’n digwydd.”