Craig Roberts, Edward Maher a'r Corporal James Dunsby (Llun:PA)
Mae cwest wedi clywed bod un o swyddogion y Fyddin oedd yn gyfrifol am ymarferiad SAS ym Mannau Brycheiniog lle bu farw tri milwr, wedi methu â sylwi bod un o’r milwyr wedi bod yn llonydd am o leiaf 44 munud.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y swyddog nad oedd wedi gweld bod y Corporal Edward Maher wedi stopio symud am nad oedd wedi bod yn monitro ei ddyfais tracio GPS yn gyson.

Byddai hynny wedi darparu manylion taith y milwr a’r pellter yr oedd yn teithio, meddai wrth y gwest yn Solihull.

Dywedodd y crwner lleol yn y gwrandawiad, Louise Hunt, ei bod yn ei chael hi’n “anodd deall” pam na wnaeth y swyddog sylwi yn gynt bod Edward Maher mewn trafferthion.

Goruchwylio

Roedd y milwr 31 oed wedi dechrau dangos arwyddion o rigor mortis pan gafodd ei ddarganfod am 2:16 y prynhawn.

“Roeddwn i yn y cerbyd ac o flaen y sgrin dracio,” meddai’r milwr, ar ôl dweud yn gynharach bod pryderon wedi’u codi am oed y ddyfais.

Mae’r cwest hefyd yn ymchwilio i farwolaethau’r Corporal James Dunsby, 31 a’r Is-gorporal Craig Roberts, 24 oed, o Fae Penrhyn.

Roedd y milwyr yn cario 49 pwys o offer yn ystod yr ymarferiad, yn ogystal â dyfais GPS oedd yn tracio eu symudiadau bod 10 munud.