Mae dynes yn yr ysbyty ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad domestig yn ardal Grangetown o Gaerdydd.
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn chwilio am ddyn 47 oed mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ychydig wedi 10:30 y bore yma ar Heol Penarth.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddal y troseddwr,” medai’r Uwcharolygydd Jim Hall.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.