Y diweddar Charles Kennedy
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn talu eu teyrngedau olaf i Charles Kennedy yn angladd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Bu farw’r gwleidydd yn annisgwyl yn 55 oed ar 1 Mehefin, a heddiw roedd ei deulu, ffrindiau a gwleidyddion yno yn eglwys St John yr Efengylwr yn Caol, Fort William ar gyfer gwasanaeth ei angladd.

Dywedodd yr offeiriad Y Tad Roddy McAuley fod Charles Kennedy yn “ddyn diymhongar” ac y byddai pobl yn “gweld colled fawr ar ei ôl”.

‘Talent arbennig’

Roedd cyn-wraig Charles Kennedy, Sarah Gurling, a’u mab deng mlwydd oed Donald ymysg y rheiny oedd yn bresennol yn ogystal â Democratiaid Rhyddfrydol blaenllaw megis Nick Clegg, Danny Alexander a Syr Menzies Campbell.

Hefyd yno roedd gwleidyddion amlwg o bleidiau eraill gan gynnwys Dirprwy Brif Weinidog yr Alban John Swinney, y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, a ffrind agos Charles Kennedy, Alastair Campbell.

Fe adawodd David Cameron a’i wraig Samantha flodau a theyrnged yn dweud: “Mae’r wlad wedi colli talent arbennig ac roedd ei gymeriad a’i ddewrder yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Rydym yn meddwl ac yn gweddïo dros Donald a holl ffrindiau Charles ar yr adeg hynod o drist yma.”

‘Yno i wasanaethu’

Yn ôl ei ffrind Brian McBride, roedd Charles Kennedy wastad yn meddwl am eraill wrth wneud ei waith.

“Roedd ganddo ethos mawr o wasanaeth cyhoeddus, ac fel Aelod Seneddol, arweinydd plaid, prifathro prifysgol, doedd o ddim yn gwneud hynny am yr arian – roedd o yno i wasanaethu,” meddai Brian McBride.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Jim Murphy: “Roedd heddiw yn wasanaeth hyfryd i Charles Kennedy y gwleidydd ond yn bwysicach, y dyn ei hun.”