Mae 29% o staff Amgueddfa Cymru wedi bod “yn dyst i fwlio neu aflonyddu”, a 22% wedi cael eu bwlio neu aflonyddu yn bersonol, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond un o bob saith aelod o staff oedd â hyder yng nghyfarwyddwyr y sefydliad, yn dilyn toriadau i’w cyllideb ac ailstrwythuro diweddar.

Mae cynrychiolydd undeb y PCS yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Elfyn Jones Roberts, eisoes wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod “teimladau’n gryf iawn” ymysg gweithwyr bod cyflogau uwch-swyddogion dal mor uchel.

Un o ganfyddiadau eraill yr arolwg gan Amgueddfa Cymru, fodd bynnag, oedd bod 95% o’r staff â diddordeb yn eu gwaith a bod 83% yn teimlo bod pobl yn ymddiried ynddyn nhw i wneud eu gwaith yn dda.

‘Cymryd honiadau o ddifrif’

Yn ôl llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru maen nhw’n cymryd unrhyw honiadau o fwlio “o ddifrif”.

“Ein blaenoriaeth o hyn allan yw sicrhau fod y staff yn parhau i gael blas ar eu gwaith o fewn awyrgylch gwaith hapus. Byddwn yn gwneud hyn trwy fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan y staff,” meddai’r llefarydd.

“Nododd 22% o’r ymatebwyr eu bod wedi dioddef bwlio neu aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd 29% iddynt fod yn dyst i fwlio neu aflonyddu. Mae Amgueddfa Cymru yn trin unrhyw honiad o wahaniaethu, aflonyddu neu fwlio o ddifrif a byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o frys.

“Bydd pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant ar amrywiaeth a chydraddoldeb, ac rydym wrthi’n trefnu rhaglen hyfforddiant i reolwyr er mwyn gwella arweiniad a rheoli perfformiad.”

Dywedodd y llefarydd y byddai Amgueddfa Cymru yn parhau i drafod y toriadau a’u cyllideb â staff.

“Morâl yn isel”

Yn ôl llefarydd undeb, fodd bynnag, dyw’r newidiadau diweddar yn yr Amgueddfa ddim wedi bod wrth fodd y staff.

“Fel tasa rhywun yn disgwyl mae morâl yn isel iawn,” meddai Elfyn Jones Roberts o undeb y PCS.

“Mae yna doriadau wedi bod i swyddi, mae pobol wedi ymddeol a dyw’r swyddi heb gael eu llenwi ac mae disgwyl wedyn i rywun wneud ei swydd ei hun a chyfro swyddi’r bobol yma.”

Heb y gydnabyddiaeth ariannol sy’n dod yn sgil gweithio oriau anghymdeithasol ar benwythnos ac ati mi fydd gweithwyr ‘blaen tŷ’ yn waeth allan o ryw 12-15%, yn ôl yr undeb sy’n dweud fod rhai’n gweithio cymaint â 47 penwythnos allan o 52 mewn blwyddyn.