Mae pryderon wedi’u lleisio ar ôl i swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Gâr gael ei hysbysebu hefo mwy o bwyslais ar sgiliau iaith Saesneg na’r Gymraeg.

Er bod manylion yr hysbyseb yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru siarad y ddwy iaith, nid yw hi’n hanfodol i fedru sgwennu Cymraeg o’r safon uchaf na chael sgiliau llafar mor uchel yn yr iaith, o’i gymharu â’r Saesneg.

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol newydd yn derbyn rhwng £95,208 a £100,890 y flwyddyn ac mi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyngor sir yn cadw at Safonau Comisiynydd y Gymraeg.

Colli cyfle

Dywedodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith bod cyfle i “osod cyfeiriad newydd i’r sir” ac i hybu’r Gymraeg yn y gweithlu yn cael ei golli.

“Mae gosod lefelau iaith yn bwysig ond y prif beth yw bod y swyddog newydd yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd,” meddai Richard Vale, llefarydd lleol ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Er mwyn gwneud hynny byddai gofyn i waith y cyngor ddigwydd yn Gymraeg – ar hyn o bryd gweithio yn Saesneg yw’r arfer, er bod digon o swyddogion sydd yn gallu siarad Cymraeg.

“Byddai gweld prif swyddogion y Cyngor yn gweithio drwy’r Gymraeg yn rhoi hyder ac yn dangos yn glir i holl weithwyr y Cyngor Sir fod y Gymraeg yn bwysig. Gallai hyn fod yn gyfle i arweinyddiaeth newydd y cyngor osod cyfeiriad newydd i’r sir, a sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol wrth galon ei hagenda.”

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn gyfrifol am feysydd fel gweithredu’r safonau iaith, strategaeth cyfathrebu a’r wasg yn ogystal â gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Gâr am ymateb.