Orgreave - y gwaith 'coke' yn 1989 (geograph.co.uk)
Mae ymgyrchwyr yn galw am ymchwiliad “tebyg i un Hillsborough” i’r ffordd y cafodd glowyr oedd eu trin gan swyddogion Heddlu De Swydd Efrog yn ystod Streic y Glowyr yn 1984.

Daw hyn wedi i’r corff sy’n goruchwylio cwynion am yr heddlu, yr IPCC, gyhoeddi na fydd yn ymchwilio ymhellach i’r honiadau o gam-drin gan yr heddlu yn ystod y protestio yn Orgreave.

Roedd y llu yn wynebu cyhuddiadau o ddefnyddio “grym gormodol” yn erbyn y glowyr, o ddylanwadu’n anghyfreithlon ar ddatganiadau ac o ddweud celwydd yn y llys.

Y gwrthdaro yn Orgreave, lle’r oedd gwaith ‘coke’, oedd wedi arwain at rai o olygfeydd mwya’ ffyrnig y streic – ar y dechrau, y glowyr oedd yn cael y bai ond fe ddaeth yn amlwg wedyn fod y cyfan yn rhan o strategaeth fwriadol gan y plismyn.

Dim ymchwiliad pellach

Wedi dwy flynedd o ymchwilio i’r achos, cyhoeddodd yr IPCC ei fod wedi penderfynu peidio â lansio ymchwiliad gan fod gormod o amser wedi mynd heibio.

Yn ôl llefarydd, doedd dim modd ymchwilio ymhellach am fod y glowyr wedi eu rhyddhau yn y diwedd ac am fod y plismyn perthnasol bellach wedi ymddeol.

Er hyn, fe ddywedodd yr IPCC ei fod wedi darganfod tystiolaeth newydd i gefnogi honiadau bod rhai o swyddogion y llu wedi dweud celwydd yn y llys.

‘Ddim am roi’r gorau’

Dywedodd un o’r glowyr gafodd ei arestio am brotestio yn Orgreave ei fod yn credu nad oedd yr ymchwiliad gan yr IPCC yn ddigon trylwyr:

“Mae’n debyg nad ydyn nhw wedi cynnal ymchwiliad ddigon trylwyr, neu nad yw hi o fewn eu grym i wneud hynny…mae’r dystiolaeth i gyd yno,” meddai Kevin Horne, 64.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Mark Metcalf o Ymgyrch Gwir a Chyfiawnder Orgreave (OTJC), na fydd yr ymgyrch yn dod i ben:

“Mae’r IPCCC wedi cyfaddef bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y corff ei wneud ac mai dim ond ymchwiliad tebyg i un Hillsborough fyddai’n canfod y gwir.

“Fydd y ffaith bod yr IPCC yn camu i’r ochr ddim yn atal yr OTJC rhag parhau â’i ymgyrch.”