Cynhadledd i'r wasg y tu allan i'r ysgol ddoe (PA)
Mae llanc 14 oed yn cael ei holi am yr ail ddiwrnod ynglŷn â thrywanu athro mewn ysgol yn Bradford.

Fe gafodd ei arestio ar ôl bod ar ffo am chwech awr wedi’r digwyddiad ben bore ddoe yn Academi Dixons King yn Bradford.

Yn ôl disgyblion, roedd y bachgen wedi trywanu’r athro cyflenwi Vincent Uzomah, 50 oed, ar ôl dadl fer am ffôn symudol.

‘Brolio’

Heddiw, mae papur y Sun yn dweud eu bod wedi gweld neges gan y bachgen ar wefan gymdeithasol Facebook yn brolio am y digwyddiad.

Mae’r athro mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ond, yn ôl yr heddlu, mae’r bachgen yn cael ei holi am ymgais i lofruddio.

Fe gafodd ei arestio yng nghanol dinas Bradford brynhawn ddoe.