Academi Dixons Kings yn Bradford
Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i athro gael ei drywanu o flaen disgyblion mewn dosbarth, meddai’r heddlu.

Honnir bod y bachgen 14 oed wedi ymosod ar yr athro gyda chyllell yr oedd wedi ei smyglo i’r ysgol.

Cafodd Vincent Uzomah, 50 oed, athro yn Academi Dixons Kings yn Bradford, ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael i drywanu yn ei stumog.

Mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty. Mae’n debyg mai dim ond ers rhai wythnosau yr oedd wedi bod yn gweithio yn yr ysgol.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i’r ysgol am 8.55 y bore ma ar ôl adroddiadau bod aelod o staff yn yr ysgol wedi cael ei drywanu. Roedd y bachgen, sy’n ddisgybl yn yr academi, wedi dianc ar ol yr ymosodiad.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Atkinson o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bod nifer o blant wedi bod yn dyst i’r ymosodiad a’u bod yn cydweithio gyda swyddogion arbenigol “sy’n rhoi cymorth iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Cafodd y bachgen ei arestio yng nghanol dinas Bradford chwe awr ar ol yr ymosodiad.

Mae’r Academi tua 15 milltir i ffwrdd o Golwg Corpus Christi yn Leeds lle cafodd yr athrawes Ann Maguire ei thrywanu i farwolaeth ychydig dros flwyddyn yn ol.