Llyn Efyrnwy
Cyhoeddodd RSPB Cymru fod dyfodol tymor hir fferm Llyn Efyrnwy, sy’n cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd naturiol eithriadol yn y canolbarth, wedi’i ddiogelu.

Mae’r cytundeb hwn yn golygu y bydd yr RSPB yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu pori cynaliadwy a model amaethu dros amser ar yr ystâd.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth Cwmni Dŵr Hafren Trent roi tenantiaeth tymor hir Fferm Tŷ-Llwyd yn nwylo RSPB Cymru.

Fferm  Tŷ-Llwyd yw fferm organig fwyaf Cymru a Lloegr ac mae ganddi  dros 3,100 o  ddefaid mynydd Cymreig, gwartheg duon a merlod mynydd ar ei thir.  Mae’r fferm yn cynnwys 12,000 o aceri o dir mynydd a chorstir o amgylch Llyn Efyrnwy sy’n cyflenwi dŵr yfed i ddinas Lerpwl. Mae’n gartref i fywyd gwyllt fel y grugiar ddu i chwilod a gwyfynod prin.

‘Ffynnu’

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru Katie-jo Luxton: “Rydym ers dros 30 mlynedd, wedi gweithio gyda’r gymuned leol i reoli’r tir ar gyfer y bywyd gwyllt a’r bobl, ac rydym wrth ein boddau gyda’r cyhoeddiad.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gynnal a gwella gwerth cadwriaethol y tir; profiad i’r ymwelydd a’r dirwedd, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi lleol, er mwyn sicrhau fod y dirwedd hon yn cael ei warchod ac yn ffynnu ar gyfer bywyd gwyllt, ac i sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei fwynhau.”

‘Dyfodol cynaliadwy’

Dywedodd Ted Pearce, ar ran Cwmni Dŵr Hafren Trent:  “Mae’r cytundeb hwn yn brawf fod y cwmni a’i bartneriaid wedi ymrwymo i ddyfodol ystad Llyn Efyrnwy, y gymuned a’r amgylchedd. Ein nod yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r ystad.”

Croesawodd Tim Jones, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru y newyddion: “Mae’n newyddion gwych i’r ardal hon o Gymru. Yr ydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda RSPB Cymru a Chwmni Hafren Trent yn Llyn Efyrnwy.”