Angus Robertson
Mae’r SNP yn galw am gryfhau Mesur yr Alban sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy’r Senedd yn San Steffan er mwyn galluogi Holyrood i gael annibyniaeth ariannol llawn.
Mae’r Blaid wedi cynnig gwelliant i’r ddeddfwriaeth arfaethedig trwy wneud Aelodau Seneddol yr Alban yn gyfrifol am dreth, pwerau benthyg a gwariant cyhoeddus yn yr Alban.
Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, wedi herio’r Blaid Lafur i gefnogi’r gwelliant a fydd yn dod a “phwerau ystyrlon i’r Alban.”
Roedd sicrhau “cyfrifoldeb cyllidol llawn” yn rhan annatod o faniffesto’r SNP yn ystod yr etholiad cyffredinol, lle enillodd y Blaid 56 sedd yn yr Alban.
‘Pwerau newydd’
Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu cynlluniau cyllidol plaid Nicola Sturgeon yn dilyn ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhybuddio y byddai’r polisi yn gadael bwlch ariannol o £7.5 biliwn.
Ond mynnodd Angus Robertson, “Mae’r Deyrnas Unedig wedi bod mewn dyled ariannol bron bob blwyddyn yn y 50 mlynedd diwethaf. Ar sail y ddadl honno, ni fyddai’r Deyrnas Unedig yn gallu fforddio pwerau cyllidol llawn.”
Dywedodd Angus Robertson, “Mae’r Alban angen pwerau newydd dros yr economi, creu swyddi, y wladwriaeth les, cyflogau a safonau byw er mwyn gwireddu potensial y wlad. Nid ydi’r gwelliannau yn mynd yn ddigon pell.”
Ychwanegodd: “Ac o’r herwydd mae’r SNP wedi galw am newidiadau sy’n flaenoriaeth i Fesur yr Alban er mwyn datganoli cyfrifoldeb dros drethi, fel Yswiriant Cenedlaethol, hawl i bennu isafswm cyflog a diogelu’r wladwriaeth les.”