Fe fydd prif weithredwr newydd Ofcom yn rhybuddio’r diwydiant bod angen gwella ei wasanaeth i gwsmeriaid, wrth i rai aelodau o’r cyhoedd barhau i’w chael hi’n anodd newid darparwyr a chanslo cytundebau.
Yn ei haraith gyntaf ers cael ei phenodi i’r swydd £275,000 y flwyddyn, fe fydd Sharon White yn rhestru ei disgwyliadau dros y blynyddoedd nesaf mewn cynhadledd sy’n cael ei gynnal gan grwp Which?.
Mae hi am weld gwelliannau mewn pedwar maes, sy’n cynnwys darparu gwybodaeth, delio a chwynion, newid darparwyr a chytundebau teg.
“Pan sefydlwyd Ofcom, roedd mynediad i gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy a ffon symudol yn rhywbeth braf,” meddai’r prif weithredwr newydd.
“Erbyn hyn, mae’n hanfodol i weithrediad yr economi, i’r ffordd mae pobol yn gweithio ac yn byw eu bywydau.”
Daw araith Sharon White wrth i Ofcom gyhoeddi heddiw y bydd miliynau o ddefnyddwyr ffon yng Nghymru yn elwa o gostau galwadau cliriach o’r mis nesaf ymlaen.
Mae’n golygu y bydd hi’n haws gwybod faint mae rhywun yn talu am alw rhifau sy’n dechrau hefo 084, 087, 09 and 118 o ffon symudol a ffon tŷ – sy’n costio tua £43 miliwn i bobol Cymru bob blwyddyn yn ôl ymchwil.