Mae tri pherson o ganolbarth Lloegr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychol yn ymwneud â Syria.

Cafodd y ddau ddyn, 21 a 27 oed, a dynes 21 oed eu harestio yn eu cartref yn Walsall tua 6 y bore ‘ma.

Fe fydd wyth tŷ arall yn yr ardal yn cael eu harchwilio gan yr uned atal brawychiaeth ond fe ddywedodd llefarydd nad oes bygythiad i’r cyhoedd.

Mae’r tri yn cael eu cadw yn y ddalfa wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.