Fe fydd ymgais o’r newydd i roi’r hawl i farw i gleifion sydd â salwch tymor hir yn cael ei lansio gan Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Bydd Mesur Cymorth i Farw, sy’n seiliedig ar gynnig blaenorol gan yr Arglwydd Falconer, yn golygu bod meddygon yn medru rhoi cyffuriau i glaf sy’n dymuno dod a’i fywyd i ben am fod ganddo lai na chwe mis i fyw.

Nid oes pleidlais ar newid yn y ddeddf hawl i farw wedi cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin ers dros 20 mlynedd.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan brif weithredwr grwp Dignity in Dying, Sarah Wootton:

“Gydag un person bob pythefnos yn teithio i Dignitas, a thros 300 o bobol wael yn lladd eu hunain bob blwyddyn y tu ôl i ddrysau caeedig, mae’n hen bryd i’r Senedd gymryd sylw.”

Mae’r cynnig diweddaraf yn cael ei arwain gan yr AS Llafur Rob Morris ac fe fydd yn cael ei drafod yn y Senedd ar 11 Medi.