Mae perchennog ci wnaeth ymosod a lladd baban 11 mis oed wedi ei gael yn euog o feddu ar anifail peryglus.
Rhybuddiodd y barnwr fod Lee Wright, 27, yn wynebu dedfryd o garchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach heddiw.
Roedd Lee Wright wedi pledio’n ddieuog o feddu ar gi ymladd a laddodd Ava-Jayne Corless ym mis Chwefror y llynedd tra roedd o a mam y babi yn cysgu.
Heddiw yn Llys Ynadon Blackburn, fe’i cafwyd yn euog ar ôl achos a barodd am ddau ddiwrnod.
Dywedodd y barnwr nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod Lee Wright yn gwybod fod y ci yn frid sydd wedi ei wahardd ond roedd yr amddiffyniad a’r erlyniad yn cytuno mai fo oedd perchennog y daeargi pydew (pit bull terrier).
Fe wnaeth Ava-Jayne Corless ddioddef anafiadau difrifol gan y ci tra’r oedd hi’n cysgu ar ei phen ei hun yn yr ystafell wely yng nghartref cariad ei mam ar 10 Chwefror, 2014.