Sgerbwd ffosil y deinosor theropod
Yn dilyn stormydd mawr yng ngwanwyn 2014, cafodd sgerbwd ffosil deinosor theropod ei ddarganfod ar draeth ger Penarth ym Mro Morgannwg – ac o bosib, dyma un o ddeinosoriaid Jwrasig hynaf yn y byd.

Roedd dod o hyd i’r deinosor yn “ddarganfyddiad oes” i ddau frawd o Lanilltud Fawr, Nick a Rob Hanigan, a nawr, bydd y deinosor Jwrasig cigysol cyntaf i’w ganfod yng Nghymru yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Yn ôl arbenigwyr, roedd y deinosor newydd hwn yn gefnder Cymreig pell i’r Tyrannosaurus rex ac yn byw ym mlynyddoedd cynharaf y Cyfnod Jwrasig, 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Bu Nick a Rob Hanigan wrthi’n ofalus yn paratoi’r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru.

Llwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr deinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i gadarnhau fod y deinosor hwn yn gigysydd o’r grŵp theropodau. Mae’n debyg hefyd mai deinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o’r esgyrn heb eu ffurfio’n llawn eto.

Parhau mae’r gwaith ymchwil, a phapur gwyddonol ar y gweill fydd yn datgelu enw’r rhywogaeth newydd.

‘Chwim’

Roedd y deinosor Cymreig yn fach, yn denau ac yn chwim. Mae’n debyg nad oedd yn llawer talach na 50cm, a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd. Mae ei ddannedd bychan a miniog yn awgrymu ei fod yn bwyta pryfed, mamaliaid bychan ac ymlusgiaid.

Er bod dannedd ac esgyrn deinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Pen-y-Bont, y Barri a’r Bont-faen, y deinosor newydd hwn yw’r sgerbwd theropod cyntaf i gael ei ddarganfod.

‘Golwg unigryw’

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae hwn yn ddarganfyddiad arbennig iawn, ac mae Nick a Rob Hanigan wedi bod yn hynod o hael wrth roi’r sbesimen rhyfeddol hwn i Amgueddfa Cymru, i’w gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym wrth ein bodd fod y sbesimen hwn yn cael ei arddangos, gan roi golwg unigryw i ymwelwyr o sgerbwd ffosiledig y deinosor cigysol cyntaf yng Nghymru, ac un o’r dinosoriaid Jwrasig cyntaf yn y byd.”

‘Profiad anhygoel’

Dywedodd Nick Hanigan: “Dyma ddarganfyddiad mwyaf ein bywydau – roedd paratoi’r penglog a gweld dannedd theropod am y tro cyntaf mewn 200 miliwn o flynyddoedd yn brofiad anhygoel – allwch chi ddim curo’r math yna o beth!”

Bydd y ffosil i’w weld ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 9 Mehefin a 6 Medi 2015.