Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dechrau ymchwiliad i dân mewn ffatri ger Merthyr Tudful yn oriau man y bore.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i’r ffatri un llawr ym Mhentrebach am 4:47 bore dydd Mawrth.

Bu tua 30 o ddiffoddwyr tân ar y safle ar un cyfnod ac mae rhai yn parhau i fod yno’n sicrhau  bod y safle’n ddiogel.