Yr Arglwydd Janner
Mae’r Heddlu yn yr Alban yn ymchwilio i gŵyn hanesyddol arall yn erbyn yr Arglwydd Janner.
Mae’n ymwneud â honiadau bod y cyn AS Llafur, 86 oed, wedi mynd a bachgen ifanc i’r Alban yn y 1970au ac wedi ei gam-drin yn rhywiol.
Fe wrthododd yr heddlu wneud sylw pellach ar hyn o bryd ond mae adroddiadau fod y dioddefwr wedi gwneud cwyn i’r heddlu yng Nghaeredin yn 1991.
Cefndir
Ym mis Mai, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) beidio ag erlyn yr Arglwydd Janner am ei fod yn dioddef o ddementia.
Roedd yn cael ei gyhuddo o gyfres o honiadau hanesyddol yn ymwneud a cham-drin plant yn y 1960au, 70au a’r 80au bryd hynny.
Mae’r Arglwydd Janner wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.