Ysgol Gyfun Bro Myrddin
Mae cynnig drafft i newid statws iaith Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin o fod yn ddwyieithog i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi ennyn cefnogaeth gan rieni a staff mewn cyfarfod neithiwr.

Pe bai’r cynnig yn cael ei basio, dyma fyddai’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Sir Gaerfyrddin o fis Medi 2016 ymlaen.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y pennaeth Dr Llinos Jones bod y newid yn gam “hollol naturiol”, gan mai canran fechan iawn o’r tua 900 o ddisgyblion yr ysgol sy’n astudio trwy gyfrwng y Saesneg ar hyn o bryd.

“Mae gymaint o newid o ran yr iaith wedi digwydd yn y ddegawd ddiwethaf – ‘does neb yn astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Saesneg ym mlwyddyn 7-10,” meddai’r brifathrawes.

“O ran gwyddoniaeth, dim ond un dosbarth allan o bump ym mlwyddyn saith sy’n astudio trwy’r Saesneg.

“Ddegawd yn ôl, byddai wedi bod yn wahanol ond mae’r newid wedi datblygu’n hollol naturiol oherwydd, mwy na thebyg, y twf mewn addysg gynradd Gymraeg.”

Yn ddibynnol ar sêl bendith Cyngor Sir Gar, fe fydd ymgynghoriad llawn ar y cynnig yn cael ei gynnal o 19 Hydref tan 4 Rhagfyr.

Ychwanegodd Llinos Jones: “Mae cyfle gyda ni i arwain y ffordd ac i greu hanes trwy sefydlu’r ysgol Gymraeg gyntaf yn Sir Gar.”

Cefndir

Ysgol Categori 2A Dwyieithog yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ar hyn o bryd, sy’n golygu bod o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig i bob disgybl.

Cafodd ymgynghoriad arall ar newid statws iaith yr ysgol i Gymraeg ei gynnal yn 2000 ond bu gwrthwynebiad iddo.