Fe fydd y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei drafod gan Aelodau Seneddol yn San Steffan am y tro cyntaf heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron fod yn bresennol yn y Senedd i glywed manylion Mesur Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, ddiwrnod ar ôl iddo achosi tensiwn o fewn ei blaid ei hun ar ôl awgrymu y gall ASau sy’n cefnogi gadael yr UE gael eu diswyddo.

Ond wrth siarad o gynhadledd yr G7 yn yr Almaen, fe ddywedodd David Cameron bod ei sylwadau wedi cael eu camddehongli.

Mae disgwyl i’r mesur basio’r cam cyntaf o’r broses seneddol ar ôl i’r blaid Lafur ollwng ei wrthwynebiad i’r polisi.

Bwriad David Cameron yw diwygio perthynas Prydain gyda’r UE cyn y refferendwm arfaethedig yn 2017.