Super Furry Animals
Fe fydd y Super Furry Animals yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener fel rhan o’r adloniant cyn gêm ragbrofol Ewro 2016 Cymru yn erbyn Gwlad Belg.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y band yn chwarae cyn y gêm ar nos Wener 12 Mehefin, ac fe fydd cefnogwyr yn cael cyfle i ddewis un o’r caneuon y byddan nhw’n chwarae.
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes wedi galw ar gefnogwyr Cymru i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd cyn y gic gyntaf am 7.45yh, er mwyn creu’r awyrgylch.
Bydd y stadiwm yn llawn ar gyfer y gêm ar ôl i bob un o’r 33,000 o docynnau gael eu gwerthu, ac mae CBDC wedi cyhoeddi gwybodaeth i geisio hwyluso teithio ar gyfer cefnogwyr.
Zombie Nation
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar wefan CBDC i ddewis pa un o dair cân y Super Furrys – Hello Sunshine, Fire In My Heart neu God! Show Me Magic – fydd yn cael ei chwarae cyn y gêm.
Mae’r band wedi ailffurfio yn ddiweddar gan fynd ar daith o gwmpas Prydain a chwarae dwy gig yng Nghaerdydd.
Dywedodd CBDC y byddai’r gân Zombie Nation gan Kernkraft 400 hefyd yn cael ei chwarae ar y system sain yn y gêm, er mwyn tanio’r awyrgylch ymysg y dorf.
Daeth y gân yn rhywfaint o ffefryn ymysg cefnogwyr Cymru ar ôl iddi gael ei chwarae yn y stadiwm ym Mrwsel llynedd pan lwyddodd y tîm i gael gêm gyfartal 0-0.