Dylai’r Llywodraeth gydnabod fod “mwyafrif clir” o etholwyr yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn adnewyddu Trident yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf, meddai llefarydd amddiffyn yr SNP yn San Steffan heddiw.

Gwnaeth Brendan O’Hara ei sylwadau yn ystod sesiwn holi ynglŷn ag amddiffyn yn Nhŷ’r Cyffredin.

Gofynnodd yr AS dros Argyll a Bute pa sylw fyddai’n cael ei roi yn adolygiad diogelwch y Llywodraeth i’r ffaith fod mwyafrif clir o Albanwyr wedi pleidleisio o blaid yr SNP sy’n gwrthwynebu adnewyddu arfau niwclear Trident.

Dywedodd yr  Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, ei fod yn disgwyl i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn a bod y Llywodraeth yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddisodli pob un o’r pedwar o longau tanfor Vanguard sy’n cludo’r taflegrau niwclear.

Ychwanegodd y byddai’r llongau tanfor newydd yn gwasanaethu tan o leiaf 2060 ac y byddai miloedd o swyddi mewn perygl yn Faslane yn yr Alban pe na fyddai Trident yn cael ei adnewyddu.