Mae Oxfam wedi rhoi’r gorau i gydweithio â chanolfan alwadau yn dilyn honiadau bod y cwmni’n rhoi pwysau gormodol ac annheg ar y cyhoedd i roi arian i’r elusen.

Cafodd yr honiadau eu gwneud mewn erthygl yn y Mail on Sunday yn dilyn ymchwiliad gan y papur newydd.

Dywed y Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB) eu bod nhw’n “bryderus dros ben” ynghylch yr honiadau, ac y byddan nhw’n ymchwilio i’r mater.

Mae’r honiadau’n ymwneud â dau gwmni – Listen a Street Academy – sy’n ffonio cyfranwyr posib yn gofyn iddyn nhw roi arian i Oxfam.

Mae Street Academy hefyd yn cyflawni’r un swyddogaeth ar ran elusen Shelter.

Dywedodd cyfarwyddwr codi arian Oxfam, Tim Hunter: “Rydym yn trin yr honiadau yn yr erthygl yn ddifrifol iawn ac wedi gohirio gweithrediadau gyda Listen a Street Academy tan bod ymchwiliad trylwyr.

“Mae Oxfam yn gwirio ansawdd galwadau codi arian ar ein rhan yn gyson, ac yn mynnu safonau uchel o hyfforddiant a monitro.”

Dywedodd Listen mewn datganiad eu bod nhw wedi gofyn i’r Mail on Sunday am dystiolaeth i gefnogi’r honiadau.

Ychwanegodd Shelter y bydden nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad yn dilyn yr honiadau.

Dywedodd y Bwrdd Safonau Codi Arian: “Rydym yn bryderus iawn am yr honiadau mae’r Mail on Sunday wedi’u gwneud.

“Mae’n hanfodol fod codwyr arian yn trin y cyhoedd gyda pharch, eu bod yn agored ac yn onest bob amser.”