Bydd rhaglen deyrnged i’r Arglwydd Morris o Aberafan yn cael ei darlledu ar S4C heno.

Roedd yn Aelod Seneddol dros Aberafan am fwy na 40 o flynyddoedd, yn aelod o Gabinet tri Phrif Weinidog Llafur ac yn Dwrnai Cyffredinol yn ystod ei yrfa wleidyddol.

Mae un o’r cyfranwyr i’r rhaglen ‘Yr Arglwydd Morris o Aberafan’ wedi dweud mai’r Arglwydd Morris yw “tad datganoli yng Nghymru”.

Mewn datganiad ar wefan S4C, dywedodd Rob Phillips, sy’n archifydd yn Archif Wleidyddol Cymru: “Mae Ron Davies wedi cael ei grybwyll fel tad datganoli yng Nghymru ond, yn fy marn i, yr Arglwydd Morris yw’r person, efallai, sy’n haeddu’r teitl yna.”

Roedd John Morris yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru adeg y refferendwm ar ddatganoli yn 1979, ac roedd yn gyfrifol am lunio’r mesur datganoli a gafodd ei dderbyn gan Gabinet y Prif Weinidog Harold Wilson yn 1978.

Bydd y sylwebydd gwleidyddol John Stevenson yn trafod y mesur yn ystod y rhaglen, gan ddweud bod llwyddo i’w basio yn “fuddugoliaeth anferthol ynddo’i hun”.

Cafodd y canlyniad ‘Na’ ei ddisgrifio gan yr Arglwydd Morris ei hun fel “colled ofnadwy”.

Bydd y rhaglen yn trafod ei fagwraeth fel mab fferm yn Nhalybont yng Ngheredigion, ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth a Chaergrawnt, ei gyfnod yn y fyddin a’i yrfa fel bargyfreithiwr.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan yn 1959, gan ymddeol yn 2001 a derbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Bydd y rhaglen yn clywed gan y dyn ei hun am ei brofiadau o fod yn aelod o Gabinet Wilson, James Callaghan a Tony Blair.

Mae’n trafod y dilemâu moesol bu’n rhaid iddo wynebu yn ei amser yn y Weinidogaeth Amddiffyn ac fel Twrnai Cyffredinol ynglŷn â’r rhyfel ym Miaffra yn y 1960au a’r rhyfel yn Kosovo yn y 1990au.

Cawn olwg hefyd ar fywyd teuluol yr Arglwydd Morris. Mae’n cydnabod ei ddyled fawr i’w wraig Margaret ‘a gododd y teulu’. Mae eu merch, Nia yn un o’r cyfranwyr eraill ar y rhaglen yn ogystal â brawd yr Arglwydd Morris, yr Athro David Morris.

Mae’r Arglwydd Morris wedi cyhoeddi’r gyfrol Fifty Years in Politics and Law sydd hefyd yn bwrw goleuni ar ei fywyd a’i waith dros y degawdau.

‘Yr Arglwydd Morris o Aberafan’, S4C, nos Sul am 8 o’r gloch