Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Nadine Dorries wedi cyfaddef iddi gael ei chamdrin gan ficer pan oedd hi’n blentyn, ac iddi gofnodi’r profiadau yn ei nofelau.

Cafodd Dorries – sydd hefyd wedi ymddangos ar raglen ‘I’m A Celebrity…’ – ei chamdrin gan ficer Anglicanaidd oedd yn ffrind i’w theulu yn Lerpwl, meddai’r Mail on Sunday.

Roedd William Cameron yn offeiriad yn Halewood yn 1966 ac mae Dorries yn honni ei bod hi wedi cael ei chamdrin pan gafodd orchymyn i fynd i’r ficerdy i edrych ar gasgliad Cameron o stampiau.

Mae’n honni bod Cameron wedi dangos cylchgronau Playboy iddi, a lluniau o natur rywiol ohono fe a’i wraig, a’i fod wedi ymosod arni yn ystod ymweliadau â’i chartref.

“Fe gymerodd 49 o flynyddoedd i fi siarad amdano. Fe fu’n araf yn dod allan a phob tro dw i’n dweud y geiriau, mae’n mynd yn haws.

“Cafodd fy mhlentyndod ei ddwyn oddi arnaf. Do’n i ddim yn ferch ddiniwed oedd yn mwynhau pethau yn yr un modd ag yr oedd plant eraill.”

Dywedodd ei bod hi’n “teimlo cywilydd” am yr hyn oedd wedi digwydd iddi.

“Pwy fyddai wedi fy nghredu pe bawn i wedi dweud rhywbeth? Roedd e’n berson mawr yn y gymuned; fe oedd Duw.”

Ychwanegodd nad oedd hi wedi dweud wrth ei rieni ei bod hi wedi cael ei chamdrin, ond ei bod hi wedi ceisio dirnad ei sefyllfa drwy gofnodi’r digwyddiadau ar bapur yn ei nofelau.

“Cafodd ei danio gan gasineb a dial, a fi yw’r cyntaf i gyfaddef nad ydw i’n falch o hynny, ond fe weithiodd i fi.”

Cafodd ei nofel ddiweddaraf – oedd yn cynnwys enw Cameron yn llawn – ei chyhoeddi’r wythnos diwethaf, ac mae disgwyl i nofel arall gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr.