Mae dau ddyn wedi marw a chafodd dau arall eu cludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Llanberis y bore ma.

Cafwyd hyd i gorff dyn 33 oed yn gynharach heddiw, ac fe ddaeth cadarnhad bod corff dyn 21 oed wedi’i ddarganfod y prynhawn yma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 8.30 yn dilyn adroddiadau bod y dynion wedi mynd i drafferthion tra’n nofio ger rheilffordd yr Wyddfa.

Mae’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, hofrennydd o’r Fali a’r Gwasanaeth Tân wedi bod ar y safle, ac roedd criw achub mynydd Dyffryn Ogwen yn barod i gynorthwyo.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Roedd digwyddiad ger rhaeadr yn agos i Reilffordd yr Wyddfa pan aeth pedwar o ddynion oedd wedi bod yn nofio yn yr ardal i drafferthion.”

Ychwanegodd fod dau o bobol gafodd eu cludo i’r ysbyty bellach wedi cael eu rhyddhau.