Un o ddarluniau Gwilym Prichard
Mae’r arlunydd blaenllaw Gwilym Prichard wedi marw’n 84 oed.

Cafodd ei eni yn Llanystumdwy yn 1931, ac fe fu farw yn ei gartref yn Ninbych-y-Pysgod.

Cafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf Birmingham cyn dychwelyd i ddysgu yn Ysgol Llangefni ym Môn tan 1973, pan ddaeth yn arlunydd llawn amser.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei ddarluniau lliwgar o dirlun Cymru.

Cafodd ei dderbyn yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 1970, ac roedd yn Gymrawd Er Anrhydedd o Brifysgol Cymru.

Treuliodd gyfnod yn byw yn Llydaw, lle roedd yn arddangos ei waith yn rheolaidd.

Derbyniodd Fedal Arian gan Academi Celfyddydau, Gwyddorau a Llythyrau Ffrainc yn 1995.

Dychwelodd i Gymru yn 1999, ac fe fu’n byw yn Ninbych-y-Pysgod.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai’n cael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn eleni.

Mewn teyrnged ar eu tudalen Twitter, dywedodd Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth: “Wedi tristhau o glywed y bore ma am farwolaeth ein cyfaill, yr artist Gwilym Prichard. Cariad i’w wraig ers 63 o flynyddoedd Claudia.”