Wrth i 50 o Aelodau Seneddol Ceidwadol baratoi i ymgyrchu tros adael Ewrop, mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi dweud bod modd “trwsio’r Undeb Ewropeaidd”.

Dywed Hammond fod Llywodraeth Prydain yn “cadw’r holl opsiynau ar agor”, gan ychwanegu nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn “addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain”.

Ychwanegodd fod y Prif Weinidog David Cameron yn awyddus i gynnal refferendwm wedi iddo sicrhau pecyn derbyniol o ddiwygiadau.

Dywedodd Hammond wrth raglen Andrew Marr y BBC fod rhaid “cadw’r holl opsiynau ar agor” rhag ofn nad oes modd dod i gytundeb.

“Rydym wedi egluro y byddwn yn cynnal y refferendwm cyn gynted ag y byddwn ni’n barod.

“Unwaith bydd gennym gytundeb ar becyn, bydd gyda ni ymgyrch refferendwm a’r refferendwm.”

Mae’r cyn-Weinidogion Cabinet Owen Paterson a John Redwood ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r trafodaethau i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.

Ond maen nhw’n barod i ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd pe na bai modd dod i gytundeb.

Mae disgwyl iddyn nhw gyfarfod yn Strasbourg ddydd Mercher.