Mae llong HMS Bulwark wedi teithio i Libya i geisio achub hyd at 500 o ffoaduriaid oddi ar arfordir Libya.

Roedd y llong yn rhan o ymdrechion yr wythnos diwethaf i achub 747 o bobol oddi ar yr un arfordir yr wythnos diwethaf.

Cafodd y llong ei hanfon i’r ardal yn dilyn pryderon bod 14 o gychod yn cludo ffoaduriaid wedi mynd i drafferthion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: “O’r wawr y bore ma, mae hofrennydd o Sgwadron 814 ar fwrdd HMS Bulwark wedi bod yn cynnal gweithrediadau goruchwylio ac wedi nodi bod pedwar cwch yn cludo cyfanswm o o leiaf 500 o ffoaduriaid wedi mynd i drafferthion.”

“Mae HMS Bulwark bellach wedi cychwyn gweithrediadau i achub y bobol hynny sydd yn y cychod.”

Mae mwy na 1,600 o bobol wedi boddi wrth geisio croesi Môr y Canoldir eleni, a’r rhan fwyaf yn ceisio ffoi rhag y Wladwriaeth Islamaidd.