Mae cyn-Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mary Burrows wedi symud i Loegr am driniaeth canser, yn ôl y Sunday Times.

Symudodd Mary Burrows o Fae Colwyn i Lundain ddeufis yn ôl er mwyn derbyn cyffur ar gyfer canser y fron sydd ar gael yn Ysbyty Royal Marsden yn Swydd Surrey.

Cafodd cronfa gyffuriau £200 miliwn ei sefydlu yn Lloegr yn 2011, ac mae’n darparu cyffuriau sydd heb gael eu dilysu gan NICE, fel arfer oherwydd y gost.

Dywedodd Mary Burrows wrth y papur newydd ei bod hi wedi cael cyngor i fynd i Loegr oherwydd nad yw’r cyffur ar gael yng Nghymru.