Mae disgwyl i’r gwrthdaro rhwng Rwsia a’r Wcráin fod ar frig yr agenda pan fydd arweinwyr gwledydd y G7 yn cwrdd yn Alpau’r Almaen heddiw.

Byddan nhw’n defnyddio’r cyfarfod er mwyn gynnal y pwysau ar Rwsia, sydd wedi cael eu diarddel o’r cyfarfod ers iddyn nhw feddiannu’r Crimea y llynedd.

Mae’r Almaen, Prydain a’r Unol Daleithiau’n awyddus i ddod i gytundeb i gefnogi unrhyw aelod o’r Undeb Ewropeaidd sydd am dynnu eu cefnogaeth i’r sancsiynau yn ôl.

Mae pryderon fod y sancsiynau’n niweidio economi Rwsia.

Mae’r Almaen hefyd am drafod gwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn dilyn sawl pandemig, gan gynnwys Ebola.

Roedd protest cyn dechrau’r uwchgynhadledd, ac fe gafodd nifer o brotestwyr eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdaro â’r heddlu.

Mae disgwyl i 17,000 o heddlu fod yn bresennol ar gyfer yr uwchgynhadledd.