One Direction
Cafodd dwy lon o’r M4 i gyfeiriad Caerdydd eu cau ar ôl damwain rhwng nifer o gerbydau prynhawn ma.

Digwyddodd y ddamwain toc wedi 2.30yp ger Cyffordd 29 i gyfeiriad y gorllewin.

Mae’n debyg bod y ddwy lon wedi ail-agor tua 4 o’r gloch.

Yn y cyfamser, roedd ’na dagfeydd ar yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd yn y gorllewin, gydag un lon ar gau.

Daw’r digwyddiad oriau’n unig cyn i One Direction berfformio yn eu hail gyngerdd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd heno.

Ddoe, roedd tagfeydd o hyd at 45 milltir ar yr M4 wrth i gefnogwyr y grŵp heidio i’r brifddinas. Roedd y Manic Street Preachers hefyd yn perfformio yng Nghastell Caerdydd.

Yn y cyfamser mae One Direction wedi gwadu eu bod nhw am gymryd saib ar ôl i’w taith ddiweddaraf ddod i ben. Neithiwr oedd y tro cyntaf i’r grŵp berfformio yn y DU ers i Zayn Malik adael y band.