Mae 33 o bobl wedi cael eu hanafu ar ôl  cael eu taro gan fellt yn ystod gŵyl roc yn yr Almaen dros nos.

Fe darodd y mellt yn ystod gŵyl Rock am Ring yn nhref Mendig yng ngorllewin y wlad.

Dywedodd y trefnwyr a’r heddlu bod wyth o bobl oedd yn helpu gyda’r cynhyrchiad wedi cael eu hanafu y tu ôl i’r llwyfan tua 1 y bore ma.

Fe benderfynodd y trefnwyr ddod a’r cyngherddau i ben a chafodd yr ymwelwyr loches mewn pebyll arbennig sy’n gallu gwrthsefyll mellt.

Ond ychydig cyn 4 y bore cafodd 25 o bobl eraill eu taro gan fellt yn safle gwersylla’r ŵyl.

Dywed yr heddlu bod y rhai sydd wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i’r ysbyty a’u bod yn gwella.

Ni chafodd unrhyw un eu taro’n uniongyrchol gan fellten.

Fe fydd yr ŵyl yn parhau tan yfory.