Cafodd peilot ei ladd heddiw ar ôl i’w hofrennydd fod mewn damwain yn Ynys Manaw.

Nid oedd unrhyw un arall, ar wahân i’r dyn 48 oed o Swydd Lincoln, yn teithio yn yr hofrennydd preifat ar y pryd.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Digwyddodd y ddamwain yn Nyffryn Baldwin, toc wedi 9 y bore ma.

Dywedodd yr Arolygydd Steve Maddocks o Heddlu Ynys Manaw bod arbenigwyr yn dechrau ymchwilio i achos y ddamwain.

Roedd yr hofrennydd wedi cludo dau berson i Creg ny Baa, rhan o’r cwrs sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer rasys TT Ynys Manaw, ychydig cyn y ddamwain.

Mae’n debyg ei bod hi’n wyntog ar y pryd.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.