Mae dyn 23 oed wedi marw ôl iddo fod yn sownd mewn twll draen yn Nhalysarn yng Ngwynedd.
Cafodd Heddlu’r gogledd eu galw i ardal Bro Silyn tua 8.07 y bore ma yn dilyn adroddiadau bod y dyn yn sownd yn y draen.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff y dyn lleol ar ôl cyrraedd y safle.
Nid yw’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.
Cafodd stâd Bro Silyn ei chau yn dilyn y digwyddiad.