The Smiler yn Alton Towers
Fe fydd Alton Towers yn parhau ar gau am bumed diwrnod yn dilyn damwain ar yr atyniad, The Smiler, pan gafodd pedwar o bobl eu hanafu’n ddifrifol.

Dywedodd swyddogion na fydd y parc yn Swydd Stafford yn ail-agor yfory oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau i achos y ddamwain.

Fe fydd pobl sydd wedi archebu tocynnau yn cael defnyddio eu tocynnau yfory mewn lleoliad arall neu gael eu harian yn ôl, neu drefnu dyddiad arall, meddai’r parc.

Yn y cyfamser mae cyfreithwyr ar ran un o’r bobl gafodd eu hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i ystyriaeth ddifrifol gael ei roi i achos troseddol.

Mae Vicky Balch, 19, o Leyland yn Swydd Gaerhirfryn yn parhau mewn cyflwr “difrifol” yn yr ysbyty yn ôl Paul Paxton, sy’n bartner yng nghwmni Stewarts Law.

Cafodd tri o bobl eraill eu hanafu – Daniel Thorpe, 27, o Buxton yn Swydd Derby, Joe Pugh, 18, o Barnsley, yn ne Swydd Efrog a’i gariad, Leah Washington, 17.