Michael Davies (llun trwy law'r heddlu)
Mae heddlu’n astudio lluniau o gamerâu cylch cyfyng i geisio datrys dirgelwch dyn o Gymru sydd wedi diflannu yn ne Lloegr.

Maen nhw’n ei ddangos ychydig oriau ar ôl iddo gael ei weld am y tro ola’ ger glan y môr yn Sandown, Ynys Wyth, fwy nag wythnos yn ôl.

Mae Heddlu Hampshire wedi apelio eto am help pobol leol i geisio dod o hyd i Michael Davies, 71 oed, o’r Blaina ym Mlaenau Gwent.

Does dim sôn wedi bod ohono ers i’r lluniau gael eu cymryd ychydig cyn un y bore ddydd Mercher 27 Mai, ac mae yna bryder arbennig oherwydd fod arno angen meddyginiaeth at bwysau gwaed.

Chwilio mannau corsiog

Heddiw, mae arbenigwyr wedi bod yn ymchwilio mewn ardaloedd corsiog ger glan y môr ond maen nhw hefyd yn gofyn i bobol edrych mewn shediau, carafanau a gerddi, rhag ofn fod y Cymro wedi chwilio am loches yno.

Roedd Michael Davies yn gwisgo, jîns crys-T gyda chylchoedd glas a gwyn, siwmper las gyda’r rhif 95 ar ei blaen a chap pêl-fas lliw hufen pan ddiflannodd o’r gwesty lle’r oedd ef a’i wraig yn aros gyda thrip bws.