Mae dyn busnes lleol wedi rhybuddio am broblemau a pheryg os bydd unig fanc pentre glan-môr poblogaidd yn cau.
Mae bwriad cwmni NatWest i gau tri banc yn y Gogledd-orllewin yn golygu y gallai Abersoch yn Llŷn fod heb fanc o gwbl er fod miloedd o ymwelwyr yn mynd yno bob blwyddyn.
Yn ôl tafarnwr lleol, fe fydd rhaid i bobol deithio saith milltir i gyrraedd y banc agosa’ ac mae hynny, meddai, yn beryg.
‘Siomi’
“Dw i wedi fy siomi’n arw,” meddai Phil Stillwell. “Mae’n golygu y bydd rhaid i fi deithio i mewn i Bwllheli efo lot fawr o arian.
“Yn un peth, dydi o ddim yn ddiogel a’r ail beth, dw i ddim yn gwybod a fydd cwmnïau yswiriant yn fodlon talu am hynny.”
Mae’r Nat West yn bwriadu cau 11 o fanciau yng ngogledd Cymru – sydd hefyd yn cynnwys Blaenau Ffestiniog a Thywyn yng Ngwynedd, yn ogystal â Llandrillo yn Rhos, Abergele, Llanelwy, Dinbych, Corwen, Llangollen, Bwcle, Blaenau Ffestiniog, Tywyn a’r Orsedd Goch.
‘Ergyd fawr’ – meddai AS newydd
Ychwanegodd Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts nad pawb sy’n medru defnyddio gwasanaethau ar-lein.
“Mi fydd cau’r canghennau yma’n ergyd fawr i drigolion lleol, a busnesau, yn enwedig unigolion anabl, yr henoed a’r rhai sy’n methu gyrru,” meddai.
“Y ddadl gyson yw y gall cwsmeriaid ddefnyddio bancio ar-lein. Ond dydi hynn ddim yn ystyried y gwasanaeth band-eang gwael sydd mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig rhai ardaloedd o Ddwyfor Meirionnydd.
“Dyma enghraifft arall o gymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaeth bancio digonol.”