The Smiler yn Alton Towers
Fe fydd Alton Towers yn parhau ynghau nes bod achos damwain ar atyniad The Smiler, pan gafodd 16 o bobl eu hanafu, yn cael ei ddarganfod, meddai pennaeth y parc.
Mae’r parc yn Swydd Stafford ynghau am ail ddiwrnod wrth i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch geisio darganfod pam fod dau gerbyd wedi gwrthdaro ar y reid, tua 2yp ddydd Mawrth.
Dywedodd Nick Varney, prif weithredwr Merlin Entertainments, sy’n cynnal y parc, na fyddai’n ail-agor nes bod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau.
Cafodd pedwar o bobl – dau ddyn a dwy ddynes – anafiadau difrifol i’w coesau yn y ddamwain.