Mae’r sgandal yn ymwneud a thwyll yn Fifa wedi dwysau ar ôl i un o gyn uwch-swyddogion y corff bêl-droed gyfaddef derbyn llwgrwobrwyon wrth ddewis lleoliad ar gyfer Cwpan y Byd yn 2010 a 1998.

Mae adroddiadau bod yr FBI hefyd yn ymchwilio i lwgrwobrwyon a gafodd eu derbyn wrth ddewis lleoliad Cwpan y Byd yn 2018 a 2022 a fydd yn cael eu cynnal yn Rwsia a Qatar.

Mae’r cyn uwch swyddog Chuck Blazer wedi cyfaddef ei fod ef ac eraill wedi cymryd llwgrwobrwyon gwerth 10 miliwn o ddoleri er mwyn i Dde Affrica gynnal Cwpan y Byd yn 2010 a swm, sydd heb ei ddatgelu, ar gyfer cais aflwyddiannus Moroco i gynnal y twrnament yn 1998.

Cafodd y dystiolaeth llys gan Blazer  ei chyhoeddi gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau, lai na 24 awr ers i Sepp Blatter gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel llywydd Fifa.

Yn y dystiolaeth mae Blazer yn cyfaddef ei fod ef a chyn is-lywydd Fifa Jack Warner wedi teithio i Foroco yn 1992 lle’r oedden nhw wedi cytuno i gymryd llwgrwobrwyon er mwyn cefnogi cais y wlad i gynnal Cwpan y Byd yn 1998, ond Ffrainc a enillodd bryd hynny.

Wythnos diwethaf cafodd 14 o bobl, gan gynnwys Jack Warner, eu cyhuddo mewn cysylltiad a honiadau o dwyll a derbyn llwgrwobrwyon. Roedd pedwar o bobl eraill eisoes wedi cael eu cyhuddo, gan gynnwys Blazer.

Mae ’na alw am ail-gynnal y broses o ddewis lleoliadau ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.