Fe gafodd Clwb Pêl-droed Abertawe dros £80m mewn gwobrau ac arian teledu gan Uwch Gynghrair Lloegr yn ystod y tymor diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd wedi cael eu rhyddhau.
Chelsea oedd y clwb wnaeth y mwyaf o arian yn ystod y tymor, gan ennill £99miliwn, tra bod QPR wedi derbyn y swm lleiaf – £64.8m.
Mae’r arian yn cynnwys yr hynny gafodd ei ddosbarthu fel gwobr yn dibynnu ar ba safle oedd pob tîm yn y gynghrair, ond mae’r rhan fwyaf yn deillio o’r hawliau darlledu gemau ar y teledu.
Mae disgwyl i’r cytundeb teledu newydd, fydd yn dechrau yn ystod tymor 2016/17, ddod a hyd yn oed mwy o arian i’r clybiau fydd dal yn yr Uwch Gynghrair tymor nesaf.
Ar y teledu
Mae llawer o’r arian y mae Uwch Gynghrair Lloegr yn ei gael o’r cytundebau teledu yn cael ei rannu’n hafal rhwng pob clwb, gydag arian ychwanegol wedyn am bob tro mae’r clwb yn ymddangos mewn gêm fyw ar y teledu.
Mae’r gynghrair hefyd yn rhoi tua £800,000 am bob safle mae’r clwb yn gorffen yn y tabl, gan olygu bod y tîm sydd yn gorffen ar y brig yn ennill tua £15m yn fwy na’r tîm ar y gwaelod.
Fe orffennodd Abertawe yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair eleni, gan dderbyn cyfanswm o £80,0571,980 gan y gynghrair.
Taliadau parasiwt
Mae Uwch Gynghrair Lloegr hefyd wedi ailwampio eu system o roi taliadau ‘parasiwt’ i glybiau sydd yn disgyn lawr i’r Bencampwriaeth.
O hyn ymlaen fe fydd unrhyw glwb sydd yn disgyn o’r Uwch Gynghrair ar ôl bod yno am dymor yn unig ddim ond yn derbyn dwy flynedd o daliadau parasiwt yn y Bencampwriaeth.
Bydd unrhyw glybiau eraill sydd yn disgyn o’r Uwch Gynghrair yn derbyn y taliadau – o leiaf £64miliwn – dros gyfnod o dair blynedd.
Fe fyddai’r rheolau hynny yn effeithio ar Abertawe os ydyn nhw’n disgyn o’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf, neu Gaerdydd os ydyn nhw’n ennill dyrchafiaeth.
Mae disgwyl hefyd i’r taliadau cyffredinol gan yr Uwch Gynghrair tuag at glybiau’r Bencampwriaeth, Cynghrair Un a Chynghrair Dau gynyddu o 2016/17.