Roedd Morgannwg yn fuddugol o ddeg wiced ar ddiwrnod ola’r ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn Stadiwm Swalec.
Roedd gan Forgannwg nod o 56 i ennill wedi iddyn nhw ddychwelyd i’r cae ar gyfer sesiwn y prynhawn.
Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg ennill dwy gêm Bencampwriaeth o’r bron ers mis Mai 2011.
Roedd yr ymwelwyr yn 163-4 pan ddechreuodd y diwrnod olaf, ac mewn dyfroedd dyfnion wedi iddyn nhw gael eu gorfodi i ganlyn ymlaen.
Cawson nhw eu bowlio allan yn y pen draw am 269, gyda chanred i Rob Newton (107) yn gorfodi Morgannwg i fatio’r ail waith i gwrso nod isel.
Daeth y capten Jacques Rudolph (29*) a Will Bragg (26*) i’r llain gan sicrhau’r fuddugoliaeth.
Crynodeb
Roedd Morgannwg wedi gosod sylfaen gadarn ar y diwrnod cyntaf wrth i Craig Meschede daro 107, ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest ddosbarth cyntaf, ac fe gafodd gefnogaeth gan Chris Cooke (73) i achub y sefyllfa i Forgannwg oedd yn 150-6 pan ddechreuodd y bartneriaeth.
Ar ail ddiwrnod a gafodd ei gwtogi’n sylweddol gan y glaw, roedd Swydd Northampton eisoes mewn trafferth wrth golli pum wiced gynta’r batiad am 79 rhediad, cyn cyrraedd 157 ar y trydydd diwrnod a gorfod canlyn ymlaen.
Yn eu hail fatiad, cyrhaeddodd Swydd Northampton 269, gan osod nod o 56 i Forgannwg.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Morgannwg yn ychwanegu 23 pwynt at eu cyfanswm yn yr ail adran, ac maen nhw’n gorffen yr ornest yn y trydydd safle yn y tabl.