Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford (llun: CBDC)
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Jonathan Ford, wedi dweud bod Sepp Blatter wedi “dal ymlaen ychydig yn rhy hir” fel Llywydd FIFA.
Cafodd y byd pêl-droed ei synnu ddoe pan gyhoeddodd Blatter y byddai’n ymddiswyddo fel pennaeth y corff sydd yn rheoli’r gêm yn rhyngwladol, a hynny yng nghanol cyfnod cythryblus i FIFA.
Dylai’r gŵr o’r Swistir fod wedi gadael cyn yr etholiad gafodd ei gynnal ar ddydd Gwener, yn ôl Jonathan Ford.
Ond er hynny roedd prif weithredwr CBDC yn llawn canmoliaeth am waith Sepp Blatter fel Llywydd FIFA, gan ddweud ei fod wedi datblygu’r gêm yn sylweddol.
Cydnabyddiaeth
Yn yr etholiad wythnos diwethaf ar gyfer Llywydd FIFA, fe bleidleisiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros yr ymgeisydd oedd yn sefyll yn erbyn Sepp Blatter, y Tywysog Ali bin Al-Hussein o Wlad yr Iorddonen.
Mae llywydd CBDC Trefor Lloyd Hughes eisoes wedi croesawu’r ffaith bod Blatter wedi camu o’r neilltu, ac fe gyfaddefodd Jonathan Ford nad oedd wedi disgwyl y cyhoeddiad ddoe.
“Fe ges i fy synnu gan y penderfyniad ond mae’n rhaid i chi roi cydnabyddiaeth pan fo angen hynny,” meddai prif weithredwr CBDC.
“Am 30 mlynedd mae Sepp Blatter wedi mynd â phêl-droed i’r brig o ran gwneud y refeniw mwyaf posib a’n gwneud ni yn brif chwaraeon y byd.”
Amser newid
Ychwanegodd Jonathan Ford bod angen olynydd i Sepp Blatter yn y swydd mor fuan â phosib.
“Mae chwaraeon eraill wedi ceisio cystadlu ond mae e wedi mynd a ni ymhell ar y blaen. Roedd e’n brif weithredwr am nifer o flynyddoedd cyn dod yn llywydd,” meddai.
“Mae e wedi bod mewn swyddi uchel yn y gêm ers bron i 40 mlynedd, ond beth fydden i’n ei ddweud yw ei fod e wedi dal ymlaen ychydig yn rhy hir.
“Byddai wedi bod yn well petai e wedi mynd cyn y bleidlais. Fe bleidleision ni dros y Tywysog Ali ac rydyn ni’n teimlo y bydd hi’n beth da bod rhywun arall am fod wrth y llyw o hyn ymlaen.”
‘Angen dechrau newydd’
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts ei fod “wedi synnu” o glywed y newyddion neithiwr, ond ei bod hi’n hen bryd i FIFA ddechrau cael trefn ar bethau.
“Dw i’n falch achos mae’n hen bryd [i Blatter fynd], mae’n 79 [oed], mae’n rhy hen i redeg FIFA yn fy marn i,” meddai Iwan Roberts wrth siarad ar Radio Cymru.
“Mae’n amser i rywun iau efo syniadau ffres ddod i mewn, ac ennill tryst y cefnogwyr. Yn y blynyddoedd diwethaf dw i’n meddwl bod y tryst rhwng y cefnogwyr a FIFA wedi disgyn cymaint.”
Roedd yr Aelod Seneddol Chris Bryant hefyd yn un o’r nifer o wleidyddion a groesawodd ymddiswyddiad Sepp Blatter, gan drydar: “Wrth fy modd bod Blatter yn mynd. Cyfle o’r diwedd i ddiwygio FIFA go iawn. Ond all pethau ddim jyst barhau yn ôl yr arfer o dan rywun tebyg i Blatter.”