Rafael Benitez
Mae Real Madrid wedi cadarnhau bod Rafael Benitez wedi cael ei benodi fel rheolwr newydd y clwb, ar ôl iddyn nhw roi’r sac i Carlo Ancelotti.

Ac fe allai hynny olygu newid byd i Gareth Bale pan fydd yn dychwelyd i Fadrid unwaith y bydd wedi gorffen ei gyfnod gyda thîm rhyngwladol Cymru a chael hoe dros yr haf.

Wythnos diwethaf roedd adroddiadau yn y wasg yn awgrymu mai Benitez fyddai’n cael y swydd, a bod y Sbaenwr yn awyddus i adeiladu ei dîm o gwmpas Bale.

Ond mae papurau newydd yn Sbaen wedi honni bod Manchester United dal yn awyddus i arwyddo’r Cymro a bod Real Madrid eisoes wedi gwrthod cynnig mawr.

‘Cynnig o £110miliwn’

Yn ôl papurau newydd Cuatro ac El Mundo Deportivo, mae Man United wedi gwneud cynnig o £110miliwn am Bale a’r amddiffynnwr Raphael Varane.

Ond gwrthod y cynnig yna wnaeth Real Madrid am y ddau, ac mae’r clwb a Bale wedi mynnu y bydd y Cymro yn aros yn Sbaen y tymor nesaf.

Mae Real Madrid hefyd yn ceisio prynu’r golwr David de Gea o Man United ar hyn o bryd, felly mae’n bosib y gallai hynny effeithio ar ymgais y clwb o Fanceinion i fachu Bale neu Varane.

Ar hyn o bryd mae Gareth Bale gyda charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2016 fawr yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin.