Mae un o hoelion wyth yr Elyrch, Leon Britton wedi cyfaddef y gallai adael Stadiwm Liberty yn ystod yr haf.
Prin fu cyfleoedd y chwaraewr canol-cae 32 oed y tymor diwethaf ac mae’n debygol o fod yn chweched dewis ar gyfer ei safle’r tymor nesaf, yn ôl papur newydd y South Wales Evening Post.
Mae Britton wedi mynegi ei ddymuniad i osgoi gorfod bod ar y fainc am weddill ei yrfa.
Roedd adroddiadau ddechrau’r wythnos yn ei gysylltu â throsglwyddiad i gynghrair yr MLS yn yr Unol Daleithiau, ond mae Britton wedi wfftio’r adroddiadau.
Dywedodd wrth y wasg leol yn Abertawe: “Siaradais i â’r rheolwr cyn diwedd y tymor ac fe siaradon ni am y tymor rhwystredig ges i.
“Fe ddechreuais i gydag anaf, yna ges i ambell anaf arall a salwch oedd yn golygu ’mod i wedi gorfod tynnu allan o gemau ro’n i fod i chwarae ynddyn nhw.”
Ond ychwanegodd Britton ei fod yn derbyn y sefyllfa y mae e ynddi gan fod chwaraewyr eraill wedi profi eu gwerth yn ei absenoldeb.
“Mae Jack Cork wedi dod i’r clwb ac wedi gwneud yn wych ac mae’r tîm wedi gwneud yn wych felly alla i ddim cwyno.”
Dywedodd fod y rheolwr Garry Monk wedi dweud wrtho y byddai’n rhoi cyfle i rai o chwaraewyr ifainc y clwb y tymor nesaf, gan gynnwys Jay Fulton a Matt Grimes.
“Nhw yw dyfodol y clwb, dw i’n deall hynny.
“Ond os ydyn nhw’n cymryd fy lle yn y garfan, bydda i’n ymarfer drwy’r wythnos ac yn rhedeg o gwmpas y cae ymarfer ar fy mhen fy hun ddydd Sadwrn, ac nid dyna ydw i am ei wneud pan dw i’r oedran ydw i.”
Mae gan Britton ddwy flynedd yn weddill o’i gytundeb gyda’r Elyrch.
Mae e wedi ymddangos mewn bron 500 o gemau i’r clwb ers iddo ymuno ar fenthyg o West Ham yn 2002, ac wedi chwarae ym mhob cynghrair yn ystod ei yrfa ddisglair.
Yn y cyfamser, mae’r Elyrch wedi derbyn £80 miliwn am orffen yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.