Sepp Blatter
Mae adroddiadau bod yr FBI yn ymchwilio i weithredoedd llywydd FIFA, Sepp Blatter ddiwrnod yn unig wedi iddo gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo.
Mae’r honiadau’n ymwneud â llythyr sy’n awgrymu bod FIFA wedi talu 10 miliwn o ddoleri yn anghyfreithlon i’r cyn is-lywydd Jack Warner, oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i’w swydd yntau yn dilyn honiadau yn ei erbyn.
Mae lle i gredu bod y $10 miliwn i fod i gael ei wario ar Gwpan y Byd yn Ne Affrica, ac fe gyfaddefodd FIFA fod yr arian wedi cael ei dalu i gyfrif Warner.
Daeth y cyhoeddiad am ymddiswyddiad Blatter brynhawn ddoe, bedwar diwrnod yn unig wedi iddo gael ei ail-ethol am bumed tymor.
Mae disgwyl i’r etholiad i ddewis llywydd newydd gael ei gynnal rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth, ac fe fydd Blatter wrth y llyw tan hynny.
Mae ei benderfyniad yn golygu bod cysgod bellach dros Gwpan y Byd yn 2018 a 2022, sy’n cael eu cynnal yn Rwsia a Qatar.
Mae ymchwiliad gan Dwrnai Cyffredinol y Swistir eisoes ar y gweill.
Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Qatar, Sheikh Hamad Bin Khalifa Bin Ahmed Al-Thani: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod swyddfa Twrnai Cyffredinol y Swistir yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i’r broses geisiadau ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.”
Mae saith o swyddogion FIFA eisoes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll a llygredd.