Harriet Harman
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman wedi ffraeo tros doriadau yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau arweinydd fynd benben â’i gilydd ers yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.

Mynnodd Cameron heddiw ei fod yn parhau i fynd i’r afael a “llanast” y Blaid Lafur, tra bod Harman yn dweud nad oes neb i’w feio bellach ond y Prif Weinidog yntau.

Rhybuddiodd Harman mai tasg y Llywodraeth newydd fyddai gwireddu addewidion a gafodd eu gwneud yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gan alw ar Cameron i ddatgelu manylion am doriadau gwerth £12 biliwn ym maes lles.

Galwodd Cameron ar y Blaid Lafur i gefnogi’r cap lles arfaethedig mewn ymgais i wneud arbedion.

Tarodd Harman yn ôl drwy ddweud bod methiant y Ceidwadwyr ym maes tai yn cynyddu’r bil budd-daliadau.

Dywedodd Cameron fod ei Lywodraeth wedi helpu 100,000 o bobol i sicrhau tai drwy’r cynllun hawl i brynu.

Ond honnodd Harman fod nifer y tai sydd wedi cael eu codi wedi gostwng o dan y Ceidwadwyr.

Wrth newid cyfeiriad y ddadl, galwodd Harman ar Cameron i wfftio toriadau i’r credyd treth i deuluoedd sy’n gweithio.

Dywedodd Cameron y byddai credyd trethi’n cael ei rewi yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.